Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 23 Mehefin 2015 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.42 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Lara Date (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan y Llywydd.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio Dadl Fer William Powell tan ddydd Mawrth 7 Gorffennaf.
Nododd y Rheolwyr Busnes bapur ar y trefniadau ar gyfer presenoldeb yr Ysgrifennydd Gwladol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, fel rhan o'r ddadl ar raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU (Araith y Frenhines).
Nododd y Pwyllgor Busnes na fyddai Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth.
Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r bleidlais ar ddadl Araith y Frenhines yn cael ei chynnal ar ddiwedd yr eitem ac y byddai'r bleidlais ar Ddadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd yn cael ei chynnal ar ddiwedd yr eitem honno.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Oherwydd Gwasanaeth Coffa Srebrenica, sy'n cael ei gynnal yn y Senedd ar y cyd rhwng y Dirprwy Lywydd a'r Prif Weinidog, cytunodd y Rheolwyr Busnes i ail-drefnu'r ddadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad o ddydd Mercher 8 Gorffennaf i ddydd Mercher 15 Gorffennaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i ail-drefnu'r eitemau canlynol o fusnes:
Dydd Mawrth 7 Gorffennaf 2015 -
· Dadl Fer - William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Hofrennydd heddlu Dyfed-Powys - pam mae'r X99 yn rhoi cymorth hanfodol i ddiogelwch cyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru (30 munud) - gohiriwyd o 24 Mehefin
Dydd Mercher 8 Gorffennaf 2015 -
·
Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio
Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad (60
munud) –
gohiriwyd tan 15 Gorffennaf
· Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r eitemau canlynol o fusnes:
Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2015 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) at y Pwyllgor Cyllid am ystyriaeth Cyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan cyfarfod yn y dyfodol, i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid.
Unrhyw Fater Arall
Yn dilyn y newidiadau i Reol Sefydlog 22, atgoffodd y Llywydd yr Aelodau i gyflwyno enwebiadau i ethol aelodau wrth gefn ar gyfer pob Aelod o bob grŵp gwleidyddol ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.